Beth yw ‘llythrennedd’?

Mae bod yn ‘llythrennog’ yn golygu y gallwch chi siarad, gwrando, darllen neu ysgrifennu i lefel sy’n eich galluogi chi i gymryd rhan ac ymwneud â’r byd o’ch cwmpas. Mae’n bwysig i ni feithrin y sgiliau hyn fel y gallwn ni:

  • ddysgu am bethau gwahanol;
  • manteisio ar y cyfleoedd sy’n dod i’n rhan mewn bywyd trwy dechnoleg ddigidol; a
  • chymryd rhan weithgar yn ein cymuned.

I blant yng Nghymru, gall hyn olygu dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Beth yw’r broblem?

Yng Nghymru, mae llawer gormod o blant yn dechrau addysg lawn amser gyda sgiliau iaith gwael. Yn gyffredinol, mae lefelau llythrennedd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr er gwaethaf y gwelliant yn y lefelau bob blwyddyn ers 1999.

Mewn arolwg rhyngwladol diweddar yn bwrw golwg ar lythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth, mae pobl ifanc 15 oed yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu â’u cyfoedion mewn gwledydd ar draws y byd.

Mae Adroddiad Blynyddol 2010-11 Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant y llywodraeth, yn nodi:

“nid yw sgiliau darllen ac ysgrifennu plant yn ddigon da mewn bron i draean o ysgolion cynradd”

Felly, mae angen i ni fynd i’r afael â’r broblem.

Beth rydym ni’n ei wneud am y peth?

Byddwn yn cyflwyno Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer pob dysgwr 5 i 14 oed. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd yn rhaid i bob ysgol sicrhau bod eu disgyblion yn cyrraedd y lefel lythrennedd a rhifedd ddisgwyliedig bob blwyddyn.
  • Darparu cymorth i athrawon pob pwnc ar sut i addysgu llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.
  • Profion darllen a rhifedd a fydd yn dangos cynnydd dysgwyr ac a oes angen cymorth arnyn nhw.

CYFLE I ENNILL Kindle

Er mwyn i chi gael mwynhau'r amser rydych yn ei dreulio yn darllen gyda'ch plentyn, mae gennym KINDLE i'w roi i chi yn rhad ac am ddim.

Am eich cyfle i ennill Kindle llenwch y ffurflen isod ac fe fydd eich enw yn mynd i'r het, gyda'r ennillydd yn cael ei ddewis ar hap.

*Ni fyddwn byth yn rhoi unrhyw ddata personol i drydydd parti.

Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth

Mae'r telerau a'r amodau yn gymwys i bob cystadleuaeth Darllen yn Well oni nodir yn wahanol.

  1. Yn agored i bobl 18 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru.
  2. Dim ond un cais yr un.
  3. Ni chaniateir mwy nag un cais, na cheisiadau gan drydydd partïon neu gan grwpiau wedi'u trefnu. Ni fydd ceisiadau anghyflawn, annarllenadwy na llwgr, na cheisiadau nad ydynt yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud cais, yn cael eu derbyn.
  4. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau a gaiff eu colli neu eu difrodi neu a fydd yn hwyr o ganlyniad i unrhyw fethiant o unrhyw fath yn ymwneud â rhwydwaith, caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadur. Ni fydd prawf bod cais wedi'i wneud yn cael ei dderbyn fel prawf bod cais wedi dod i law.
  5. Caiff y buddugwyr eu dewis ar hap.
  6. Bydd gwobrau'n cael eu hanfon at y buddugwyr o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y dewisir enwau'r buddugwyr. Ni fyddwn yn atebol os na fydd unrhyw wobr yn eich cyrraedd neu oni allwch ei chymryd am resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, neu os gwneir difrod i unrhyw wobr wrth iddi gael ei hanfon.
  7. Nid yw'r wobr yn drosglwyddadwy nac yn gyfnewidiadawy, fodd bynnag, o dan amgylchiadau annisgwyl, mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i gynnig gwobr arall o'r un gwerth.
  8. Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i fuddugwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd a fydd yn deillio o'r hyrwyddiad.
  9. Bernir y bydd pob cystadleuydd, drwy gymryd rhan yn yr hyrwyddiad hwn, wedi derbyn y telerau a'r amodau hyn, ac y bydd yn cael eu rhwymo ganddynt.
  10. Nid yw'r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, rhwymedigaethau, anaf neu siom a ddaw i'ch rhan neu a ddioddefir gennych o ganlyniad i gyflwyno cais o dan yr hyrwyddiad hwn neu o ganlyniad i dderbyn y wobr. Ni fydd dim yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol a achosir o ganlyniad i unrhyw esgeuluster ar ei ran.
  11. Mae penderfyniadau'r Hyrwyddwr mewn perthynas â phob mater sy'n gysylltiedig â'r hyrwyddiad hwn yn rhai terfynol ac ni fydd unrhyw ohebu yn eu cylch.
  12. Bydd y telerau a'r amodau hyn yn cael eu rheoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr.